#

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-691

Teitl y ddeiseb: Bargen deg ar gyfer ralïo mewn coedwigoedd yng Nghymru

Testun y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw gynnydd yn y gost o ddefnyddio ffyrdd mewn coedwigoedd yng Nghymru at ddibenion ralïo ceir yn deg ac yn gydnaws â'r costau a geir yn Lloegr a'r Alban.

Byddai'r gost gyfredol yng Nghymru yn dyblu o dan strwythur prisio arfaethedig Cyfoeth Naturiol Cymru, a fyddai'n dod i rym ym mis Mehefin 2016. Mae hyn yn gwbl groes i'r contractau cyfatebol newydd y mae'r comisiynau coedwigaeth wedi'u rhoi ar waith yn Lloegr a'r Alban.

Tra bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ceisio dyblu'r costau hyn yng Nghymru, bydd costau yn Lloegr a'r Alban ond yn cynyddu 0.7% (o'u cymharu â'r contract blaenorol).

Mae'r diwydiant ralïo yng Nghymru, sydd werth £15 miliwn, yn dod â buddion twristiaeth di-ri i gefn gwlad Cymru. O dan y drefn gostau y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ceisio ei chyflwyno, byddai cynnal digwyddiadau yng Nghymru yn anghynaliadwy yn y dyfodol oherwydd y costau uchel. Rydym yn gofyn am gynnal ymchwiliad llawn i'r mater hwn er mwyn canfod pam mae'r costau arfaethedig hyn wedi chwyddo cymaint o'u cymharu â rhanbarthau eraill.

Cefndir

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rheoli ystâd goedwig Llywodraeth Cymru ar ei rhan.

Mae CNC a'r Gymdeithas Chwaraeon Modur (MSA) wrthi'n trafod y ffioedd y mae CNC yn eu codi ar MSA ar gyfer cynnal gweithgareddau ar y ffyrdd coedwig y mae'n gyfrifol amdanynt.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datgan bod anghysondeb o ran faint y mae'n ei gostio i Cyfoeth Naturiol Cymru baratoi ac adfer ei ffyrdd coedwig ar gyfer ralïo a'r ffioedd y mae MSA yn eu talu. Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae hyn yn golygu y talodd MSA £339,000 i CNC yn 2015 am ffioedd rali cymalau, gan gynnwys ei ddigwyddiad blaenllaw Rali Cymru GB. Fodd bynnag, y gost wirioneddol i adfer y ffyrdd a ddefnyddiwyd ar gyfer ralïo oedd £655,000.

Mae hyn yn wahaniaeth o £316,000.

At hynny, dywedodd CNC y daeth y cytundeb diweddaraf ar gyfer ffioedd rali cymalau i ben yn 2015, ond ei fod wedi cytuno i gadw'r ffioedd presennol tan fis Mai 2016 ar gais y MSA, a hynny er mwyn gallu cynnal trafodaethau pellach.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd:

Yn achos ralïo , fe wnaethom sylweddoli nad ydym wedi bod yn codi digon ers sawl blwyddyn am y gwaith yr oeddem yn ei wneud a hynny gan fwy na 50% ac, oherwydd y pwysau ar gyllidebau yn y sector cyhoeddus, ni allwn fforddio colli'r swm hwnnw o arian o'n cyllideb. Dyna pam ein bod ni wedi dechrau trafod gyda'r MSA am y broblem yn gynharach eleni er mwyn ceisio canfod datrysiad i dorri'r costau neu i gynyddu'r hyn yr ydym yn ei godi.

Yn Lloegr a'r Alban, ceir cytundeb ar y cyd(PDF 203KB) rhwng Comisiwn Coedwigaeth Lloegr a Chomisiwn Coedwigaeth yr Alban, ac MSA. Mae'r cytundeb presennol yn para o 1 Ionawr 2016 i 31 Rhagfyr 2018. Mae'r ffioedd ar gyfer 2016 wedi cynyddu'n unol â'r Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) o 0.7% (Hydref 2015). Er enghraifft, y ffi yn 2016 am ddefnydd sylfaenol ar gyfer ralïau cymalau arbennig yw £688 y filltir. Y ffi gyfatebol yn 2015 oedd £683 y filltir.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Ysgrifennodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, at y Pwyllgor ar 3 Awst 2016. Meddai:

Mater i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a'r Gymdeithas Chwaraeon Modur (MSA) yw hwn yn bennaf. Rwy'n ymwybodol bod y ddau gorff wedi cwrdd yn ddiweddar, a bod CNC wedi gwneud cynnig i MSA sy'n ei ystyried o hyd. Mae trafodaethau yn mynd rhagddynt ac rwy'n gobeithio y bydd modd dod i gytundeb cyn bo hir.

Camau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Nid yw'r Cynulliad wedi trafod y mater hwn eto.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.